y

Beth a wnawn

Grŵp ymchwil a labordy yn Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Pennsylvania ydy Lab Esblygiad Diwylliannol Iaith. Fe'i gyfarwyddir gan Gareth Roberts.

Fel yr awgryma'r enw, cynhaliwn ymchwil arbrofol ar esblygiad diwylliannol iaith. Mae'r arbrofion a gyflawnwn yn dueddol o gynnwys “ieithoedd arbrofol”. Mewn sawl arbrawf, er enghraifft, mae ein cyfranogion yn dysgu ieithoedd artiffisial bychain ac yn eu defnyddio i gyfathrebu â'u gilydd; mewn arbrofion eraill, mae'n rhaid i gyfranogion hyd yn oed lunio systemau cyfathrebol newydd allan o ddim. Weithiau fe gyfeirir at y dull hwn o astudio iaith fel Semioteg Arbrofol. Serch hynny, nid oes cyfathrebiad rhwng cyfranogion mewn pob arbrawf a gynhelir gennym, ac mewn ambell i arbrawf, fe ganolbwyntiwn ar broses dysgu'r iaith. Un o ganolbwyntiau ein hymchwil, gan ystyried bod hanes hir ac amlwg o ymchwil ddyfeisgar ar amrywiaeth iaith yn perthyn i Brifysgol Pennsylvania, ydy rôl ffactorau cymdeithasol yn esblygiad diwylliannol iaith. Ond ni chyfyngir ein hymchwil yn gyfan gwbl i hyn, nac i arbrofion a ddefnyddia ieithoedd arbrofol chwaith; rhestrir rhai o'n prosiectau cyfredol isod. Ar y chwith mae rhestr o aelodau'r lab ar hyn o bryd.

  • Trefniant systemau ffonolegol (gyda Robin Clark a Jianjing Kuang; Cyllid NSF!)
  • Rôl gyfathrebol eiconigrwydd (with Petros Kaklamanis and Rob Snider)
  • Sŵn, amser, a gorymadrodd (gydag Inthat Boonpongmanee and Sophie Faircloth)
  • Amnewidiad geiriau (gyda Wesley Lincoln a Rafael Ventura)
  • Labeli a chategorïo (gyda Aja Altenhof)