Cefndir
    Cefais fy magu yn Nolgellau, ac nid fi ydy'r unig gysylltiad rhwng y dref honno a Philadelphia. Yn Nolgellau mae ystad Bryn Mawr, yr ymfudodd ei pherchennog Rowland Ellis, ynghŷd â nifer o Grynwyr eraill, i Dde ddwyrain Pennsylfania ym 1686 (lle gadawasant olion a bery hyd heddiw).  Fel y rhan fwyaf o bobl yr ardal honno, siaradaf Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Ond nid oedd dwy iaith byth yn ddigon i mi. Wedi i mi droi'n 18 gadawais Gymru i astudio Almaeneg a Rwsieg ym Mhrifysgol Nottingham, lle daeth yn amlwg — er bod dysgu ieithoedd yn braf ac yn ddefnyddiol — mai astudio sut y mae iaith yn gweithio oedd fy ngwir angerdd.

    Ni charlamais, fodd bynnag, yn syth at y cam amlwg nesaf, sef gwneud gradd ôl-raddedig. Yn gyntaf penderfynais dreulio ychydig mwy o amser yn Rwsia, lle enillais swydd fel athro Saesneg ym Moscow. Cefais lawer o hwyl yno ond, ar ôl dwy flynedd o hynny, penderfynais symyd i Gaeredin i astudio esblygiad iaith a gwybyddiaeth. Arweiniodd hyn at PhD, a oruchwyliwyd gan April McMahon ac Andrew Smith. Mae fy thesis ar gael fan hyn. Fe ddisgrifia ddull arbrofol o geisio ateb pam y mae ieithoedd yn ymwahanu i dafodieithoedd. Mae pobl wedi sôn ei fod yn weddol ddarllenadwy.

    Ar ôl cwblhau fy noethuriaeth gweithiais ar brosiect efo Christine Caldwell a Cristina Matthews ym Mhrifysgol Stirling, lle gofynasom i gyfranogion adeiladu tyrau allan o sbageti a chlai modelu, fel modd o ymchwilio prosesau esblygiad diwylliannol. Wedyn symudais i Efrog Newydd i ymaelodi â'r Lab Semioteg Arbrofol ym Mhrifysgol Yeshiva, lle treuliais dair blynedd yn cynnal arbrofion ar iaith a chyfathrebiad efo Bruno Galantucci. Yn 2014 derbyniais swydd fel Isddarlithydd yn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Pennsylvania.

    Rwyf yn briod â chyn-athronydd ac, yn fy amser hamdden, rwyf yn dal yn hoff o ddysgu ieithoedd. Fe anwyd ein mab cyntaf Iori ym Medi 2011, ein merch Eirwen yn Chwefror 2014, a'n hail fab Osian ym Mawrth 2017. Rydym yn eu magu'n ddwyieithog.